Free job search

Cynghorydd Geomorffoleg

South Wales, Wales,
Company: Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales
Category: Business and Financial Operations Occupations
Published 10 months ago

Job Details

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Hydroleg a Rheoli Adnoddau Dŵr (De) / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £32,876 yn codi i £36,229 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).

Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2024

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos
(Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)

Dyddiad cyfweld: 16 Tachwedd 2023

Rhif swydd:  203142

Y rôl

Byddwch yn darparu gwasanaeth cymorth geomorffoleg afonol technegol cynhwysfawr, i gwsmeriaid mewnol a phartneriaid. Byddwch yn cefnogi cyflawni nifer o brosiectau adfer afonydd proffil uchel ledled De Cymru. Hefyd, byddwch yn darparu cyngor ac arweiniad ar Ganiatadau Gweithgarwch Perygl Llifogydd a Thrwyddedau Tynnu Dŵr, gan ein helpu i gynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau a gwella llesiant ledled Cymru.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Lloyd Jones at

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Amdanom ni

Byddwch yn ymuno â’r Tîm Rheoli Hydroleg, Geomorffoleg ac Adnoddau Dŵr yn Ne Cymru, yn ein Hadran Rheoli Llifogydd a Dŵr. Rydym yn dîm aml-swyddogaeth mawr sy'n cwmpasu De a Chanolbarth Cymru. Byddwch yn gweithio ar rai o afonydd mwyaf eiconig Cymru o’r Teifi i’r Gwy a phopeth yn y canol. Bydd y rôl yn cynnwys cymysgedd o waith ar y safle ac yn y swyddfa, a byddwch yn cael y cyfle i ddarparu atebion ymarferol a fydd yn ein helpu i ddelio â’r Argyfwng Natur a Hinsawdd

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Dadansoddi, dehongli a pharatoi adnoddau ar ddata gwyddonol technegol, gan ddarparu gwybodaeth o safon i’r timau perthnasol i gefnogi eu penderfyniadau a’u helpu i ddiogelu’r amgylchedd.
  • Ymchwilio i geisiadau trwyddedau cyfeiriedig, a chyflwyno sylwadau arnynt, gan ddarparu ymateb technegol i ganolfan drwyddedu CNC, awdurdodau, datblygwyr a thimau CNC yn unol â pholisi cyfredol CNC, er mwyn dylanwadu ar drwyddedu a datblygu cynaliadwy a’i hyrwyddo.
  • Cynghori ar gydymffurfiaeth â’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a deddfwriaeth berthnasol arall.
  • Gweithredu fel cynghorydd technegol ar adfer afonydd, biobeirianneg, a mesurau rheoli llifogydd yn naturiol.
  • Darparu mewnbwn technegol i ganllawiau ar reoli perygl llifogydd, trwyddedu, gorfodi, adfer tynnu dŵr mewn modd cynaliadwy, a phrosiectau priodol eraill.
  • Darparu mewnbwn technegol i ddatblygiad arferion geomorffolegol, gan ganolbwyntio’n benodol ar eu rôl wrth reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Darparu cymorth technegol i gydweithwyr CNC ar faterion geomorffolegol cymhleth.
  • Cyfrannu at ddatblygiad a gweithrediad llwyddiannus cynlluniau brys, gan gynnwys rheoli achosion o sychder a llifogydd.
  • Cefnogi arfer gorau iechyd a diogelwch drwy hyrwyddo ymwybyddiaeth yn weithredol a sicrhau bod arferion gwaith diogel yn cael eu darparu sy’n cydymffurfio â pholisïau a safonau Asiantaeth yr Amgylchedd.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
  • Pwy ydych chi – cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau sydd eu hangen

    Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y meini prawf canlynol wrth lunio rhestr fer a chyfweld. Defnyddiwch y dull STAR i ddangos sut rydych chi'n bodloni'r gofynion a amlinellir isod yn y cais am swydd.

  • Gradd mewn pwnc gwyddonol penodol (e.e. daearyddiaeth ffisegol, gwyddor yr amgylchedd neu beirianneg sifil).
  • Aelod graddedig o gorff proffesiynol priodol (e.e. CIWEM neu Sefydliad y Peirianwyr Sifil), gan weithio tuag at fod yn siartredig.
  • Gallu dangos cymhwysedd mewn gwyddor geomorffolegol a meddu ar y gallu i weithredu’n ymarferol ac yn arloesol ar lefel weithredol. Byddwch wedi ennill profiad dros nifer o flynyddoedd trwy ddefnyddio dulliau, technegau a chyfrifiadau geomorffolegol, gyda pheth profiad o weithio ar safleoedd afonydd.
  • Dealltwriaeth dda o elfennau hydromorffolegol y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, yn ogystal â’r gallu i lunio adroddiadau technegol ar agweddau o’r fath.
  • Y gallu i gyfleu gwybodaeth dechnegol i bobl nad ydynt yn arbenigwyr.
  • Y gallu i ymwneud â gwaith maes mewn amgylcheddau corfforol anodd o bosib.
  • Trwydded yrru lawn y DU.
  • Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: – gallu ynganu Cymraeg a defnyddio ymadroddion sylfaenol
  • Noder : Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

    Beth fyddwch chi’n ei gael: ein buddion

    Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • gweithio ystwyth a hyblyg
  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
  • Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

    Daliwch ati i ddarllen

    Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

    Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd

    Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

    Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

    Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.

    Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

    Start Your Career at Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales

    For this job you can start work immediately. Apply now and get the job.
    Job offer: Cynghorydd Geomorffoleg

    Daily Alerts

    Create a job alert for Latest Jobs in UK

    Subscribe now to receive daily alerts with jobs from all UK sources.